Mewngofnodi
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda chyfrif Sign on Cymru (SOC), rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair, ac yna dewiswch "Mewngofnodi".
Os hoffech newid eich cyfrinair, dewiswch y dewis ailosod "Wedi anghofio eich cyfrinair?".
Cyfeiriad e-bost neu gyfrinair annilys
Os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfrinair yn anghywir, byddwch yn cael y neges ganlynol.
Fel rhan o fesurau arfer gorau diogelwch, ni fyddwn yn nodi pa un yw'r un anghywir.
Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost a sicrhewch ei fod yn gywir a cheisiwch eto. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, defnyddiwch y dewis ailosod "Wedi anghofio eich cyfrinair?".
Newid eich cyfrinair
I ddechrau'r broses newid cyfrinair, rhowch eich cyfeiriad e-bost a dewiswch "Anfon cod dilysu".
Dilysu eich cyfrif
Bydd y system yn anfon e-bost atoch i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd, ewch i nôl y cod o'ch blwch post a'i roi i mewn i'r blwch "Cod Dilysu", ac yna dewiswch "Dilysu Cod".
Rhowch eich cyfrinair newydd
Os bydd y Cod Dilysu cywir wedi'i roi, bydd hyn yn eich galluogi i fewnosod cyfrinair ar gyfer y cyfrif hwn.
Dilynwch y canllawiau ar gyfer y cyfrinair. Rhaid iddo fod o leiaf 12 nod ac yn cynnwys 3 o'r 4 eitem isod.
- Nod mawr
- Nod bach
- Rhif
- Nod arbennig fel y rhestrir. Ar y sgrin
- @ # $ % ^ & * - _ + = [ ] { } \ : ' , ? / ~ " ( ) ; .
Ar ôl cwblhau, dewiswch "Parhau".
Manylion mewngofnodi annilys
Os byddwch yn rhoi eich cyfrinair yn anghywir, byddwch yn cael y neges ganlynol.
Gwiriwch eich cyfrinair yn erbyn y meini prawf canllaw cyfrinair a cheisiwch eto. Ar ôl i'ch cyfrinair fodloni'r meini prawf, dewiswch "Parhau".
Mae eich cyfrinair wedi'i ailosod nawr.