BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Mewngofnodi i'ch gwasanaeth trwy SOC

Mewngofnodi

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda chyfrif Sign on Cymru (SOC), rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair, ac yna dewiswch "Mewngofnodi".

Cyfeiriad e-bost neu gyfrinair annilys.

Os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost neu eich cyfrinair yn anghywir, byddwch yn cael y neges ganlynol.

Fel rhan o fesurau arfer gorau diogelwch, ni fyddwn yn nodi pa un yw'r un anghywir.

Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost a sicrhewch ei fod yn gywir a cheisiwch eto. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, defnyddiwch y dewis ailosod "Wedi anghofio eich cyfrinair?".

Mae gennym ganllawiau i'ch cefnogi os ydych wedi anghofio eich cyfrinair.

Dilyswch eich cyfrif

Ar ôl cadarnhau eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair, mae angen i'r system wirio eich cyfrif.

Dewiswch y botwm "Anfon Cod dilysu", bydd cod yn cael ei anfon wedyn at y cyfeiriad e-bost sydd yn y blwch cyfeiriad e-bost wedi'i lwydo.

Rhowch y cod o'r e-bost a dderbyniwyd i mewn i'r blwch "Cod dilysu" a dewiswch "Dilysu'r cod".

Os yw'r Cod dilysu wedi'i gadarnhau, gallwch ddewis "Bwrw ymlaen" i gael mynediad i'r gwasanaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.