Mewngofnodi
Ar ôl dewis "Mewngofnodi", byddwch yn cael eich cyflwyno i sgrin mewngofnodi.
Nid oes gennych gyfrif? Cofrestrwch nawr.
Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda chyfrif Sign on Cymru (SOC), rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair.
Os ydych am greu cyfrif SOC newydd, dewiswch "Cofrestrwch nawr".
Rhowch eich cyfeiriad e-bost
I greu cyfrif SOC, cyflwynwch eich cyfeiriad e-bost. Rhaid i chi sicrhau bod gennych fynediad i'r blwch post gan y bydd y system yn anfon e-bost atoch i gadarnhau mai dyma eich cyfrif yn ystod y cofrestru.
Ar ôl i'ch cyfeiriad e-bost gael ei roi yn y blwch "Cyfeiriad E-bost", gwiriwch a yw'n gywir ac wedyn dewiswch "Anfon cod dilysu".
Gwiriwch eich cyfeiriad e-bost
Byddwch wedi derbyn cod dilysu gan Microsoft gyda'r llinell pwnc "Microsoft ar ran Tîm SOC".
Rhowch y cod dilysu i mewn i'r blwch "Cod Dilysu" a dewiswch "Gwirio’r Cod".
Os nad ydych wedi derbyn cod dilysu. Gwiriwch eich ffolder “Sothach/Sbam”.
Sylwer: Peidiwch ag ateb yr e-bost hwn am unrhyw reswm, mae'n cael ei gynhyrchu gan y system ac nid yw e-byst yn cael eu monitro.
Creu eich cyfrinair
Os bydd y Cod Dilysu cywir yn cael ei roi, bydd hyn yn eich caniatáu i fewngofnodi a chreu cyfrinair ar gyfer y cyfrif hwn.
Dilynwch y canllawiau ar gyfer y cyfrinair. Mae angen iddo fod yn o leiaf 12 nod ac yn cynnwys 3 o'r 4 eitem isod.
- Nod mawr
- Nod bach
- Rhif
- Nod arbennig fel a restrir. Ar y sgrin
- @ # $ % ^ & * - _ + = [ ] { } \ : ' , ? / ~ " ( ) ; .
Ar ôl cwblhau, dewiswch "Creu".
Gwirio eich cyfrif
Os yw'r cyfrinair a grëwyd gennych yn bodloni'r gofynion, bydd y system yn gofyn am wiriad ychwanegol arall. Gwneir hyn er mwyn cadw'r cais a'ch cyfrif yn ddiogel.
Dewiswch y botwm "Anfon cod dilysu", bydd cod yn cael ei anfon wedyn at y cyfeiriad e-bost sydd yn y blwch cyfeiriad e-bost wedi'i lwydo.
Rhowch y cod o'r e-bost a dderbyniwyd i mewn i'r blwch "Cod Dilysu" a dewiswch "Dilysu’r Cod".
Os bydd y cod dilysu wedi'i gadarnhau, gallwch ddewis "Parhau" i gael mynediad i'r gwasanaeth.